Yn cyflwyno ap Covid-19 y GIG
Fideo: Cyflwyno’r Ap – Fideo Esboniadol
Gweld trawsgrifiad o 'Cyflwyno’r Ap – Fideo Esboniadol' fideo
Mae ap COVID-19 y Gwasanaeth Iechyd yn allweddol i’r frwydr yn erbyn coronafeirws.
Mae’r ap newydd gyda technoleg gwarchod preifatrwydd Apple a Google a bydd yn ein helpu ni i fyw ein bywyd yn ddiogel gan eich amddiffyn chi ac eraill.
Os daw’r risg yn uchel yn eich ardal cod post chi, bydd yr ap yn rhoi gwybod I chi – ac yn dweud wrthych beth i’w wneud.
Os dewch i gysylltiad agos â defnyddiwr arall sy’n cael canlyniad prawf positif bydd yr ap yn anfon neges ddi-enw atoch.
Gyda sganiwr QR yr ap cewch gofnodi mewn i lefydd yn hawdd a chyflym.
Gallwch wirio’ch symptomau gyda’r ap ac os ydynt yn awgrymu bod y coronafeirws gennych, mae’n hawdd trefnu prawf trwy’r ap.
Bydd unrhyw ddata a rennir gyda’r ap yn cael eu cadw ar eich ffôn yn unig.
Fydd neb yn gwybod pwy na ble rydych chi. Cewch ddileu’r ap a’r holl ddata unrhyw bryd.
Ap newydd COVID-19 y Gwasanaeth Iechyd yw’r ffordd gyflymaf i weld a ydych yn wynebu risg o’r feirws. Trwy wybod hyn yn gyflym gallwch roi gwybod i eraill a diogelu eich gilydd. Larlwythwch yr ap heddiw.
Mae ap COVID-19 y GIG yn rhan o'n rhaglen raddfa fawr profi ac olrhain cysylltiadau coronofeirws (COVID-19) o'r enw gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG yn Lloegr a gwasanaeth Profi, Olrhain a Gwarchod GIG Cymru yng Nghymru. Caiff yr ap ei ddefnyddio, ochr yn ochr ag olrhain cysylltiadau traddodiadol, i hysbysu defnyddwyr os byddant yn dod i gysylltiad â rhywun sy'n profi'n bositif am y coronafeirws yn ddiweddarach.
Mae'r ap yn galluogi pobl i adrodd am symptomau, archebu prawf coronafeirws, Mewngofnodi mewn lleoliadau drwy sganio côd QR ac mae'n helpu'r GIG i olrhain unigolion a allai fod wedi cael y coronafeirws.
Bydd yr ap yn helpu'r GIG i ddeall a yw'r feirws yn lledaenu mewn ardal benodol, ac felly bydd modd i awdurdodau lleol ymateb yn gyflym i'w atal rhag lledaenu ymhellach ac achub bywydau.
Mae'r ap yn gwneud hyn wrth ddiogelu anhysbysrwydd y defnyddiwr. Fydd neb, gan gynnwys y llywodraeth, yn gwybod pwy yw defnyddiwr penodol neu ble mae e.
Gwyliwch ein fideo i wybod mwy ynglŷn â sut y byddwn yn diogelu eich preifatrwydd